Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
17 Tachwedd 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6676
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd cwestiynau 1-6 a chwestiwn 8. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Atebodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip y 4 cwestiwn cyntaf am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.40
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.01 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: TATA Steel
Dechreuodd yr eitem am 15.11
4 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru
Dechreuodd yr eitem am 16.07
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Model Buddsoddi Cydfuddiannol
Dechreuodd yr eitem am 17.07
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Wythnos Rhyng-ffydd
Dechreuodd yr eitem am 17.39
7 Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020
Dechreuodd yr eitem am 18.18
NDM7468 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
Dechreuodd yr eitem am 18.22
NDM7476 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mai 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2020-21
Dechreuodd yr eitem am 18.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7443 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Hydref 2020.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
21 |
4 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.55 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
10 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020
Dechreuodd yr eitem am 19.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7470 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
13 |
4 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
11 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020
Dechreuodd yr eitem am 19.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7469 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
3 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
12 Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020
Dechreuodd yr eitem am 19.28
NDM7475 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
13 Dadl: Adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau
Dechreuodd yr eitem am 19.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7467 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau.
Adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
6 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
14 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 20.21 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
Dechreuodd yr eitem am 20.25
Daeth y cyfarfod i ben am 20.28
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2020